Mudiad dan arweiniad athrawon yw ResearchED, a’i nod yw gwella llythrennedd ymchwil yn y gymuned addysg. Mae Elaine Sharpling a Siân Brooks yn trafod eu hymweliad diweddar ag un o’i gynadleddau…

 

Wedi’r anerchiad agoriadol ysbrydolgar gan Tom Bennett, cyfarwyddwr a sylfaenydd ResearchED (sy’n ei ddisgrifio’i hun yn “fudiad llawr gwlad dan arweiniad athrawon”), fe gychwynnodd y gynhadledd.

Gofynnodd Tom i oddeutu 300 o gynadleddwyr, a eisteddai yn adeilad mawreddog y Ganolfan Arholiadau yn Rhydychen, a oedden nhw ar Twitter a chododd bron iawn 300 o ddwylo, cymaint yw cryfder y platfform hwn ar y cyfryngau cymdeithasol o ran uno athrawon-ymchwilwyr.

Gan edrych o gwmpas yr ystafell y teimlad oedd ein bod ni yn ein harddegau yn frwd ar drywydd ein hoff sêr mewn ystafell yn llawn o gyfranwyr YouTube; roedd mawrion byd y Trydarwyr i gyd yno.

Mewn gwirionedd, roedd Twitter yn byrlymu drwy’r dydd gyda chynadleddwyr yn defnyddio #rEDlang i roi sylwadau ar bwyntiau diddorol, a dadleuol ar brydiau, ac roedd y digwyddiad yn trendio ar Twitter am nifer o ddyddiau wedi’r gynhadledd.

Mae’r drefn yn syml ac yn effeithiol – talu £20, cyrraedd a chofrestru, bachu amserlen y dydd a dod o hyd i gornel i eistedd a chynllunio’ch ymgyrch.

Mae modd dewis o amrywiaeth eang o bynciau, a phob un yn cael ei gyflwyno mewn sesiwn ar ddull seminar am oddeutu 40 munud. Rydych chi’n cymryd nodiadau, yn gofyn cwestiynau a bant â chi i’r sesiwn nesaf.

Penderfynon ni mai ‘rhannu a rheoli’ oedd y ffordd i fynd er mwyn gallu clywed y prif siaradwyr, ac â chynllun gweithredu mewn llaw aethon ni’n dwy i’w ffordd ei hun.

Yn ResearchED does dim angen teimlo’n unig am eich bod chi’n mynd ati i sgwrsio â phwy bynnag sy’n eistedd wrth eich ochr, ac wedyn yn dweud “da bo” a symud ymlaen.

Cinio hwylus dros ben yw’r stop nesaf. Cydio mewn cwdyn yn llawn ffrwyth, dŵr a myffin, dewis brechdan a chwrdd â ffrindiau, wedi’ch calonogi gan ansawdd y siaradwyr, a gyda chynifer o gwestiynau i’w gofyn:

Siân: “Elaine, sut mae’r digwyddiad heddiw yn cymharu â digwyddiadau eraill ResearchED?”

Elaine: “Mae hwn yn lleoliad bendigedig ond dwi ddim yn meddwl y gallwch chi gymharu digwyddiadau. Mae cynadleddau ResearchED bob tro’n gynulliad bywiog ac egnïol o athrawon, addysgwyr athrawon a’r rheini sy’n frwd iawn dros beth sy’n gweithio mewn addysg. Er bod ffocws ar addysgu uwchradd, mae’r cynadleddau’n dod â theori ac arfer addysg at ei gilydd drwy arddangos sut mae athrawon wedi defnyddio ymchwil i wneud gwahaniaeth yn eu hystafelloedd dosbarth. Yn aml mae’r ysbrydoliaeth i ddefnyddio ymchwil wedi deillio o weithio gyda thiwtor prifysgol, neu o ddilyn proffwydi addysg ar Twitter neu ddarllen cofnodion blog a darnau barn. Rwy’n hoffi’r ffaith nad oes unrhyw un diffiniad neu ffynhonnell i ymchwil. Straeon go iawn sydd yma, o ystafelloedd dosbarth go iawn lle mae athrawon go iawn yn trafod sut maen nhw wedi gofyn cwestiynau iddyn nhw’u hunain, i’w dysgwyr ac i’w hysgolion.”

Siân: “Pa siaradwr oedd yn sefyll allan i ti?”

Elaine: “Penderfyniad anodd – rwy’n mynd am ddau. Yn gyntaf, rhoddodd Dr Arlene Holmes-Henderson gyflwyniad ar effaith dysgu Lladin ar ddatblygiad gwybyddol plant. Mae’r canlyniadau interim yn drawiadol a dangosodd Arlene sut mae plant yn gallu dechrau archwilio patrymau gwreiddeiriau, rhagddodiaid ac ôl-ddodiaid yn y Saesneg. Roedd e’n gafael ynot ti. Efallai yr awn ni ymlaen â hyn gydag ysgolion ac athrawon dan hyfforddiant a byddwn ni’n sicr yn edrych ar y wefan ddefnyddiol yma: https://classicsincommunities.org/

“Fy newis arall i yw Carl Hendrick – siaradwr atyniadol iawn a roddai ystyriaeth i’r mathau o ymchwil a ddylai fod gan athrawon Saesneg ar flaenau eu bysedd. Cododd nifer o bwyntiau diddorol ynghylch a ydy ein system addysg yn ffafrio pobl allblyg, ac oferedd gwaith grŵp pan nad yw’r dysgwyr yn sicr yn eu gwybodaeth bynciol. Roeddwn i’n falch i ddarganfod bod Carl yn un o gefnogwyr Daniel Willingham (http://www.danielwillingham.com/daniel-willingham-science-and-education-blog).

“Beth amdanat ti?”

Siân: “Roeddwn i’n llawn cyffro i weld y gwrw Ieithoedd Tramor Modern Dr Gianfranco Conti ac roedd ei sesiwn ar ‘Breaking the sound barrier: teaching listening skills bottom-up’ yn ddiddorol dros ben, gyda llawer o syniadau ymarferol roeddwn i’n gallu eu rhoi ar waith ar unwaith. Yn yr un modd, roedd sesiwn yr Athro Victoria Murphy ar ‘Why English literacy teachers should care about MFL learning’ yn arbennig o ddiddorol o ran y newidiadau yn y cwricwlwm yng Nghymru a fy niddordebau ymchwil fy hun. Fodd bynnag, yr uchafbwynt i mi oedd sesiwn Gillian Campbell-Thow, ‘1+2 languages: Joining the dots and weaving some multilingual magic’. Roedd brwdfrydedd Gillian dros wella dulliau addysgu ieithoedd yn f’ysbrydoli i gymaint nes fy mod i eisiau symud i Glasgow yn y fan a’r lle!

“Yr unig sesiwn yr aeth y ddwy ohonon ni iddi gyda’n gilydd oedd yr un gan athro o Ysgol Michaela. Mae’r ysgol yma’n cael ei hystyried yn “ysgol fwyaf llym Lloegr” ac mae’n defnyddio Twitter yn helaeth. Ces i fy nghyfareddu ond yn teimlo i mi gael fy nghynhyrfu i’r un graddau. Gyda’r awgrym o ddim PowerPoint, dim amcanion, dim lluniau a bron iawn dim marcio, meddyliais i am yr adborth i’r gwrthwyneb roeddwn i wedi’i roi i fy myfyrwyr TAR fy hun yr wythnos flaenorol. Beth oedd dy deimladau di?”

Elaine: “Ymdrechais i’n galed i beidio ag adweithio na chael fy ngwylltu gan sylwadau megis ‘dim gwaith grŵp’ a ‘dim gweithgareddau’ er mai geiriau megis ‘cydweithio’, ‘siarad deialogaidd’ a ‘dysgu drwy ddarganfod’ oedd ar flaen fy meddyliau i! Roeddwn i’n hoffi’r syniad o roi ergyd i’r status quo a chreu trafodaeth danbaid. Roedd y ffocws ar addysgu gwybodaeth a gwerth yr athro/athrawes fel y prif adnodd yn bwyntiau diddorol ac roeddwn i’n gallu gwerthfawrogi’r safbwynt yma. Fodd bynnag, fy nheimlad pennaf i oedd ‘Gobeithio bydd y plant yn iawn’.”

Siân: “Roedd y syniad o ddod ag ymchwilwyr Saesneg ac Ieithoedd Tramor Modern at ei gilydd yn ddiddorol iawn yng ngoleuni cwricwlwm Donaldson, fodd bynnag, rwy wedi teimlo fel petawn i’r unig un o Gymru yn yr ystafell yn y rhan fwyaf o sesiynau. Oeddet ti’n teimlo bod cynrychiolaeth dda o Gymru?”

Elaine: “Na, ddim o gwbl – chwrddais i â neb arall o Gymru. Dyma ein her ni ac mae’n un y mae’n rhaid i ni fynd ymlaen â hi gyda thîm Tom Bennett!”

Hyd yn oed cyn i’r gynhadledd ddod i ben, roedd cyflwynwyr wedi rhannu eu cyflwyniadau’n hael iawn ar Twitter.

Ar y trên ar y ffordd adre roedden ni wedi sôn am @tombennett71 mewn trydariad i ddiolch iddo am drefnu diwrnod mor gyffrous.

Atebodd yntau ar unwaith gan ddymuno’n dda i ni. Yn bendant mae’r gymuned hon o athrawon-ymchwilwyr yn un groesawgar.

  • Elaine Sharpling yw Cyfarwyddwr Gweithredol Addysg Gychwynnol Athrawon a Siân Brooks yw tiwtor TAR Ieithoedd Tramor Modern yn yr Athrofa Addysg, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Leave a Reply

Your email address will not be published.

Post comment