Yr Eglwys

Cynhelir gwasanaethau yn Gymraeg neu yn Saesneg neu’n ddwyiethog yn yr eglwys bob Sul. Mae’r Ficer yn cyhoeddi cylchlythyr wythnosol sy’n rhoi manylion llawn am y gwasanaethau a gynhelir yn yr eglwys, ac mae copi ohono i’w weld bob amser yn Siop y Pentref.