Llanllwni a Maesycrugiau
Gwefan y Gymuned
Mae Llanllwni yn bentref a phlwyf gwledig yng ngogledd Sir Gaerfyrddin rhwng Llanbedr Pont Steffan (8 milltir) a Chaerfyrddin (14 milltir). Poblogaeth y plwyf yw tua 660 ac mae’n estyn dros ryw 6,600 o gyfeiri ar lan orllewinol Afon Teifi.
Llun gan Iwan Gibby
Llanllwni
Mae ‘llan’ yn elfen gyffredin mewn enwau lleoedd yng Nghymru. Ac mae tuedd erbyn hyn i dderbyn mai unig ystyr llan yw ‘eglwys’ am fod enw sant yn dilyn ‘llan’ yn aml iawn.
Ond mewn cyfnod cynharach, un ystyr i ‘llan’ oedd darn o dir wedi’i gau ar gyfer tyfu rhyw gynnyrch neu i gadw eiddo fel yn ‘ydlan’, ‘perllan’. Datblygiad o’r ystyr hon yw ‘darn o dir cysegredig, mynwent, eglwys’.
Mae egluro gweddill yr enw yn fwy anodd. Mae’r enw yn digwydd am y tro cyntaf yn 1329 a’r ffurf bryd hynny yw Lanthleweni . Digwydd y ffurf ll. llwni c.1566.
Mae union ffurf yr enw personol sy’n dilyn ‘llan’ yn ansicr. Mae Llewenni yn bosibilrwydd i’w ystyried.
Llun gan Iwan Gibby