Mae cwricwlwm cenedlaethol Cymru yn datblygu’n gyflym ac mae ysgolion, colegau a phrifysgolion ar draws y wlad yn paratoi ar gyfer newid. Ond gyda newidiadau y daw cyfleoedd ac, yn ôl yr Athro Dylan E. Jones, ni fu erioed gwell amser i fod yn athro yng Nghymru…
Mae Addysg yng Nghymru yn newid – a rhoddwyd rhyddid i athrawon ein tywys trwy’r trawsnewid hwnnw.
Am y tro cyntaf mewn 30 mlynedd, mae’r proffesiwn yn cael ei annog i arloesi, rhoi cynnig ar bethau newydd a meddwl o’r newydd am yr hyn mae’n ei olygu i fyw, gweithio a dysgu yng Nghymru.
Nid yw ein trefniadau cwricwlwm presennol, a luniwyd yn 1988 cyn y We Fyd-eang, yn addas at y diben bellach.
Rydym yn byw mewn byd gwahanol iawn; mae datblygiadau technolegol wedi newid y meini prawf ac mae’r sgiliau lefel uwch a fynnir gan gyflogwyr wedi newid.
Mae beth a sut mae plant yn dysgu wedi esblygu, ac mae cwricwlwm newydd yn cael ei lunio a’i ddatblygu yn barod ar gyfer cyfnod newydd cyffrous.
Mae’r cynllun y cytunwyd arno i gynorthwyo symud arfer dosbarth yn ei flaen yn seiliedig ar bedwar diben, sef bod plant a phobl ifanc yn datblygu:
- yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes
- yn gyfranwyr mentrus, creadigol, sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith
- yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus sydd yn barod i fod yn ddinasyddion i Gymru a’r byd
- yn unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas
Mae chwe ‘Maes Dysgu a Phrofiad’ (MDPh) yn cael eu sefydlu i helpu ysgolion i gyflawni’r pedwar diben, ac maent yn rhychwantu’r ystod oedran gyfan o 3 i 16.
Maent yn hyrwyddo ac yn darparu sail ar gyfer parhad a dilyniant, ac yn annog athrawon i weithio’n greadigol ac yn gydweithredol ar draws ffiniau pwnc traddodiadol.
Mae’r chwe MDPh a’u deunyddiau ategol, bron wedi’u cwblhau ac yn cynnwys:
- Celfyddydau mynegiannol
- Iechyd a lles
- Dyniaethau
- Ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu
- Mathemateg a rhifedd
- Gwyddoniaeth a thechnoleg
Mae’r Athrofa ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi bod yn flaenllaw ac yn ganolog yn yr esblygiad hwn.
Mae ein staff addysgu ac ymchwil arbenigol wedi cynorthwyo ysgolion i ddatblygu’r chwe MDPh a lluniwyd fframwaith i olrhain cynnydd dysgwyr.
Yn gysylltiedig â hynny, mae cydweithwyr yn yr Athrofa’n gweithio gydag athrawon ar hyn o bryd i nodi’r goblygiadau dysgu proffesiynol yn deillio o’r trefniadau newydd, yn barod ar gyfer cyflwyno’r cwricwlwm am y tro cyntaf yn 2022.
Nid oes yr un brifysgol arall yng Nghymru wedi cael yr un lefel o gyfranogiad yn y broses ddiwygio ac rydym ni’n eithriadol o falch o’n cyfraniadau hyd yn hyn.
Dywedir yn aml na all ansawdd system addysg ragori ar ansawdd ei hathrawon.
Ac nid yw hynny’n fawr o syndod, o gofio’r effaith arwyddocaol a pharhaol a gaiff athrawon ar y disgyblion yn eu gofal.
Mae athrawon yn weithredwyr newid a, hebddynt, does fawr o obaith i Gymru gyrraedd yr uchelfannau yr ydym ni i gyd yn anelu atynt.
Mae’r athrawon rydw i’n eu hadnabod yn angerddol, yn gadarn ac yn adfyfyriol a’r rhinweddau hyn fydd yn eu galluogi i fwrw ymlaen yn ddygn â’r system addysg newydd a chyffrous yr ydym wrthi’n ei datblygu ar y cyd.
Ond mae gan brifysgolion hefyd ran arwyddocaol i’w chwarae ac mae’n hanfodol fod gan athrawon y presennol a’r dyfodol y sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol i ddarparu cwricwlwm cenedlaethol newydd Cymru.
Bydd gwella ansawdd yr hyfforddiant sydd ar gael, ar bob cam yn natblygiad gyrfa, yn hanfodol ac nid yw cynnal y status quo bellach yn opsiwn.
Dyna pam mae casgliad newydd yr Athrofa o raglenni addysg athrawon wedi’u llunio gydag agenda ddiwygio uchelgeisiol Cymru yn gadarn mewn cof.
Mae ein cwricwlwm newydd yn arloesol a blaengar, ac wedi denu diddordeb o wledydd ar draws y byd.
Nid yw’r cyfle i saernïo rhywbeth gwirioneddol wahanol, gyda buddiannau gorau Cymru’n greiddiol iddo, yn codi’n aml.
Dyma’ch cyfle chi i ymuno â ni ar y daith honno.
Ysbrydolwch genhedlaeth – gwnewch wahaniaeth… Addysgwch!
- Yr Athro Dylan E. Jones yw Deon Yr Athrofa, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant