Cyfarfu Cyngor Plwyf Llanllwni am y waith gyntaf yn mis Rhagfyr 1894 ac fe’i sefydlwyd yn rhan o drefniadaeth Llywodraeth Leol yng Nghymru a Lloegr. Erbyn hyn mae’r Cynghorau Cymuned wedi disodli’r hen gynghorau plwyf ac wedi mabwysiadu llawer iawn o’u cyfrifoldebau.
Mae’r Cyngor yn cwrdd yn rheolaidd i drafod busnes y gymuned sy’n cynnwys plismona cymunedol. Hysbysebir Cyfarfod Plwyf cyhoeddus yn flynyddol lle y mae rhyddid i bawb fynegi barn. Anfonir cofnod o drafodaethau’r Cyngor i’r wasg leol. Bydd Cofnodion y Cyngor ar gael unwaith y byddant wedi cael eu cadarnhau.