Yn 2004 daeth criw bychan o ferched a gwragedd ‘ifanc’ yr ardal at ei gilydd i sefydlu Clwb Gwawr – sy’n cynnig cyfle gwych i ferched gyfarfod yn rheolaidd … a hynny trwy gyfrwng y Gymraeg.
Ond mae Clwb Gwawr yn fwy nag esgus i ddianc o’r tŷ ond yn gyfle i gymdeithasu, i godi arian at achosion da, i ennill sgiliau newydd ac wrth gwrs i roi’r byd yn ei le.
Beth arall? Cynnal gweithgareddau megis helfa drysor, mynd ar deithiau, cystadlu mewn cystadlaethau cenedlaethol ym maes y ddrama, mewn eisteddfod ac mewn chwaraeon.
Mae’n gangen ifanc a’r aelodaeth yn tyfu’n flynyddol a’r cyfan yn mynd o nerth i nerth.
Os ydych am gymdeithasu yn Gymraeg a chael llu o ffrindiau newydd, dyma’r gymdeithas i chi. Mae’n hwyl, yn hwyl fawr ac yn rhagor o hwyl.