Ymchwil mewn addysg yn bwnc trafod gwerthfawr
Canolbwynt gweithdy diweddar gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD), a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, oedd cryfhau ymchwil mewn addysg athrawon. Dyma Elaine Sharpling yn adfyfyrio ar gyfarfod cynhyrchiol rhwng pobl o’r un bryd… Roedd y gweithdy OECD diweddar yng Nghaerdydd yn sicr yn brofiad buddiol. Bu cyd addysgwyr athrawon o’r […]
Canfyddiadau athrawon yn effeithio ar wersi TGCh
Mae gan athrawon yng Nghymru ganfyddiadau cyferbyniol ynglŷn â thechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh) sy’n effeithio ar y ffordd mae’r pwnc yn cael ei addysgu mewn ysgolion, yn ôl adroddiad newydd. Cynhaliodd ymchwilwyr o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd astudiaethau achos gydag athrawon mewn tair ysgol wahanol a gwelwyd bod […]
Cyfle i rannu arbenigedd ym maes ieithoedd mewn cynhadledd ryngwladol
Tyrrodd cant a mwy o bobl o Gymru a thu hwnt i gynhadledd bwysig ar un o gonglfeini cwricwlwm cenedlaethol newydd Cymru. Trefnodd Athrofa’r Drindod Dewi Sant gynhadledd arbennig ar Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu ar ei champws yng Nghaerfyrddin Ebrill 6-7. Dyma gynulliad Ymchwil mewn Addysg cyntaf yr Athrofa, a rhoddodd sylw blaenllaw i un […]
Arolwg o’r gweithlu yn taflu goleuni newydd ar fywyd mewn ysgolion
Mae canlyniadau’r Arolwg Cenedlaethol cyntaf o’r Gweithlu Addysg wedi’u cyhoeddi ac, yn ôl Gareth Evans, ni ellir eu hanwybyddu… Yn erbyn cefnlen o gyllidebau’n crebachu, pryderon am atebolrwydd a ffrwd gyson o straeon negyddol yn y wasg, nid yw’n syndod efallai mai cymysg oedd yr ymateb i’r Arolwg Cenedlaethol cyntaf o’r Gweithlu Addysg. Er […]
Y Gymraeg Mewn Addysg a Bywyd
Gyda’r paratoadau ar gyfer cynhadledd Ymchwil Addysg gyntaf Yr Athrofa yn cyrraedd penllanw, ‘Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu’, mae Mererid Hopwood yn codi clawr adroddiad a gyhoeddwyd 90 mlynedd yn ôl: ‘Y Gymraeg Mewn Addysg a Bywyd’… 1927 Mae’n flwyddyn arwyddocaol. Dyma flwyddyn sefydlu’r Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig dan arweiniad y Cyfarwyddwr Cyffredinol, Syr John Reith, […]
Partneriaeth strategol newydd i gryfhau hyfforddiant athrawon a’r gallu i ymchwilio
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi cryfhau ei datblygiad ym maes hyfforddi athrawon ac ymchwil trwy lofnodi partneriaeth strategol gydag un o brif sefydliadau addysg y Deyrnas Unedig. Mae’r Athrofa yn y Drindod Dewi Sant yn cydweithio’n agos â’r Ysgol Addysg uchel ei bri ym Mhrifysgol Glasgow i wella’i darpariaeth a helpu bodloni […]
Prosiect cerddoriaeth teirieithog yn taro’r nodau cywir
Mae prosiect peilot sy’n defnyddio cerddoriaeth i annog plant i ddysgu iaith yn cael ei gyflwyno ar draws ysgolion cynradd yn ne a gorllewin Cymru. Mae’r prosiect cerddoriaeth teirieithog, Cerdd Iaith, yn ceisio mynd i’r afael â’r cwymp yn y niferoedd sy’n dysgu ieithoedd yng Nghymru. O dan arweiniad Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, […]
A wêl a gred – sut mae technolegau newydd yn agor ein llygaid i’r byd
Yma mae’r tiwtor iaith Siân Brooks yn mynd â ni ar daith ddarganfod gan ddefnyddio rhithrealiti… Mae gweld llun o Dŵr Eiffel dipyn yn wahanol i sefyll gyferbyn Tŵr Eiffel ei hun. Pan fyddwch chi ym Mharis ar drip ysgol, mae’r pleser pur o weld disgyblion yn edrych i fyny ar y tŵr o’u […]
Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu: testun cynhadledd ieithoedd
Mae arbenigwyr iaith o Gymru a thramor yn dod at ei gilydd yng Nghaerfyrddin fis nesaf i drafod manteision amlieithrwydd. Mae Athrofa Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn cynnal cynhadledd ar y thema ‘Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu’ ar y 6ed a 7fed o Ebrill. Gan ystyried Dyfodol Llwyddiannus a’r cynlluniau i weddnewid y cwricwlwm […]
Dysgu gwersi o ddigwyddiad addysg i’r pedair gwlad
Daethpwyd ag addysgwyr o bob un o’r gwledydd cartref at ei gilydd i rannu arbenigedd a chymharu’r heriau maen nhw’n eu hwynebu. Treuliodd athrawon, darlithwyr ac academyddion o Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon benwythnos gwaith yng Nghaeredin er mwyn archwilio dau fater allweddol. Testun y mater cyntaf oedd a ddylai fod rhyw gytundeb […]