Fel Cydlynydd Partneriaeth Natur Leol Ceredigion, rwyf wedi fy nghyffroi gan weledigaeth PCYDDS ar gyfer dyfodol Llanbedr Pont Steffan. Yn y cyfnod anodd hwn, wrth i’r pandemig, y newid yn yr hinsawdd a’r dirwedd bolisi newidiol ar gyfer bwyd a ffermio ddod ag ansicrwydd i’n bywydau, mae’n gysur gwybod bod y Brifysgol yn cydnabod ei rôl ganolog yn adfywio’r dref a’r cyffiniau. Mae menter Canolfan Tir Glas yn enghraifft dda o’r math o feddwl tymor hir sydd ei angen os ydym am gyflawni buddion cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Mae manteisio ar yr ystod o asedau naturiol sy’n bodoli’n lleol wrth ymateb i’r argyfwng ecolegol byd-eang, fel y mae’r fenter hon yn anelu at ei wneud, yn wir yn uchelgais beiddgar. Dim ond ar sail ecosystemau ffyniannus y gellir cael gwytnwch economaidd a chyfiawnder cymdeithasol o’r math a ragwelir.

Mae angen i ni newid y ffordd rydym yn cynhyrchu bwyd os ydym am gadw cynefinoedd ar gyfer rhywogaethau dan fygythiad megis:

Mae ecosystemau iach nid yn unig yn cynnal bioamrywiaeth: maent hefyd yn helpu i atal llifogydd ac erydu a chynnal ffrwythlondeb pridd, ansawdd dŵr ac aer glân. Er mwyn i genedlaethau’r dyfodol barhau i fwynhau’r buddion hyn, rhaid inni fabwysiadu patrymau mwy cynaliadwy o ddefnydd tir. Gall Canolfan Tir Glas ein helpu i ddysgu sut, ac mae’r Ganolfan hefyd yn cydnabod ei fod yn dibynnu ar gefnogaeth leol i lwyddo.

Dyma le mae’r Bartneriaeth Natur Leol yn dod i mewn. Rydym yn rhwydwaith o dros 100 o unigolion, grwpiau cymunedol a sefydliadau o bob rhan o Geredigion, gydag ystod eang o gefndiroedd ond un nod a rennir: atal a gwrthdroi colled byd natur yn ein cymunedau. I’r perwyl hwn, rydym yn cyd-greu Cynllun Gweithredu Adfer Natur Lleol. Rydym yn gwahodd unrhyw un sy’n rhannu ein nod i gyfrannu eu syniadau, gwybodaeth, adnoddau a sgiliau i wireddu hyn

Rydym yn croesawu’n arbennig yr hyfforddiant mewn dulliau ffermio cynaliadwy a gynigir gan Academi Bwyd Cyfoes Cymru; y modiwl craidd ‘Gwydn trwy Ddylunio’ a’r rhaglen ‘Dysgu o Fyd Natur’ a ddarperir gan Ganolfan Cydnerthedd a Harmoni Cymru.

Rhyngom, mae gan aelodau Partneriaeth Natur Leol Ceredigion gyfoeth o wybodaeth a phrofiad sy’n ein galluogi i roi cyngor ar ffyrdd o fynd i’r afael â’r argyfwng natur. Mae PCYDDS yn aelod gwerthfawr o’r Bartneriaeth Natur Leol. Edrychwn ymlaen at archwilio’r ffyrdd niferus y gall Canolfan Tir Glas a Phartneriaeth Natur Leol Ceredigion ddarparu cyngor, cefnogaeth a chymorth i’w gilydd.


biodiversity@ceredigion.gov.uk

Conservation and Wildlife – Ceredigion County Council