Yn dilyn trafodaeth gyda Chlwstwr Mêl Cymru, rydym yn hapus i gyhoeddi bod Canolfan Tir Glas wedi datblygu partneriaeth gyda chynhyrchwr mêl lleol sydd wedi sefydlu fferm wenyn ar y Campws. Gwnaethpwyd hyn yn dilyn asesiad risg a chefnogaeth lwyraf yr Unedau Datblygu Eiddo ac Ystadau.
Mae hyn yn ddechrau arbennig i ddatblygu nifer o brosiectau cynaliadwy fel rhan o weledigaeth Canolfan Tir Glas ar Gampws Llambed.
Y gobaith yw y bydd gyda ni Fêl Tir Glas erbyn 2022 fel cynnyrch arbennig i’w werthu gan gynhyrchwr lleol wrth i ni ddathlu daucanmlwyddiant y Brifysgol.
Mae Mêl ap Griff, sydd yn gyfrifol am y fferm wenyn, yn edrych ymlaen i gyd weithio gyda Chanolfan Tir Glas a’r Brifysgol yn y dyfodol.