Mae canlyniadau’r Arolwg Cenedlaethol cyntaf o’r Gweithlu Addysg wedi’u cyhoeddi ac, yn ôl Gareth Evans, ni ellir eu hanwybyddu…

 

Yn erbyn cefnlen o gyllidebau’n crebachu, pryderon am atebolrwydd a ffrwd gyson o straeon negyddol yn y wasg, nid yw’n syndod efallai mai cymysg oedd yr ymateb i’r Arolwg Cenedlaethol cyntaf o’r Gweithlu Addysg.

Er hynny roedd yn ymarfer pwysig yr oedd angen ei wneud.

Trwy weld sut mae’n chwythu yn y system addysg, gallwn ddeall yn well yr heriau sylfaenol i weithredu polisi’n llwyddiannus.

Yn fyr, gallwn adnabod problemau a chwilio am atebion.

Comisiynwyd yr arolwg gan Lywodraeth Cymru a’i hwyluso gan Gyngor y Gweithlu Addysg (EWC), a rhoddai gyfle i bob ymarferydd addysg cofrestredig – rhyw 72,497 ohonynt – fynegi eu safbwyntiau, eu cwynion a’u hanghenion ar gyfer symud ymlaen o ran addysg.

A gallent wneud hynny’n ddienw, ac yn gwbl ddiduedd.

Am y rheswm hwnnw roeddwn yn siomedig mai 14% yn unig (10,408) o’r rhai oedd yn gymwys i gymryd rhan a wnaeth hynny.

Gwnaeth mwyafrif helaeth yr ymarferwyr cofrestredig wrthod y cyfle i fynegi’u llais – prawf, os oedd ei angen, bod llawer mwy i’w wneud o ran ymgysylltu’n gadarnhaol â’r proffesiwn.

Beth bynnag oedd canfyddiadau cyfunol  yr arolwg, byddai wedi bod yn dipyn anoddach i’w anwybyddu petai nifer mwy arwyddocaol wedi cymryd rhan ynddo.

Wedi dweud hynny, nid wyf o’r farn y bydd yr arolwg hwn yn cael ei anghofio’n fuan iawn.

Dyma rai o’r prif ganfyddiadau:

Yn ôl yr Ysgrifennydd dros Addysg, Kirsty Williams, roedd mynediad at ddysgu proffesiynol a hyder wrth gyflwyno a defnyddio TGCh yn elfennau cadarnhaol a ddeilliai o’r arolwg.

Ond, heb os nac oni bai, bydd pryderon ynghylch llwyth gwaith athrawon a’r ffaith nad ydynt yn gyfarwydd â’r diwygiadau i’r cwricwlwm a’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol newydd.

Mae’r ffaith bod traean o’r athrawon yn bwriadu cefnu ar y proffesiynol yn ystod y tair blynedd nesaf yn rhybudd i ni i gyd.

Mewn rhai ffyrdd ni allai cyhoeddi’r arolwg fod wedi digwydd ar adeg waeth.

Yn ddiweddar lansiwyd ymgyrch genedlaethol newydd dan arweinyddiaeth pedwar consortiwm addysg rhanbarthol Cymru yn galw ar weithwyr proffesiynol i ‘Ddarganfod Addysgu’, ac nid ystadegau’r wythnos diwethaf yw’r hysbyseb orau i weithio mewn ysgolion.

Ond nid oes byth amser da i orfod wynebu’r gwir – ac roedd angen trafod arfarniad onest a phlaen o realiti gweithio yn y byd addysg yng Nghymru.

Am y rheswm hwnnw mae Ms Williams a’i swyddogion yn haeddu cryn dipyn o glod.

Byddai elfennau o’r arolwg yn ddarllen anodd unrhyw bryd.

Heb os, byddai ambell sgerbwd yn y cwpwrdd a thrwy agor y drws i ddadansoddiad beirniadol, mae Llywodraeth  Cymru wedi taflu goleuni ar nifer o ddiffygion pwysig.

Mae digon i gnoi cil arno a dylid canmol Ms Williams am fentro gwneud rhywbeth na welodd ei rhagflaenwyr yn dda i’w wneud.

Ond mae nifer o’r canfyddiadau wedi’u nodi o’r blaen, fel y gwnaeth Prif Weithredwr Cyngor y Gweithlu Addysg, Hayden Llewellyn yn glir ar y diwrnod y rhyddhawyd yr adroddiad.

Meddai: “Mae’r canlyniadau hyn yn codi’r llen ar nifer o’r heriau proffesiynol mae ein staff mewn ysgolion ac AB yn eu hwynebu ac yn cynnig data cadarn i ategu rhai o’r straeon a glywn yn aml.”

Mewn gwirionedd, cydnabu Ms Williams yr wythnos diwethaf yn ystod cyfarfod o Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad nad oedd Llywodraeth Cymru wedi dod o hyd i’r ateb i “broblem barhaus y llwyth gwaith” a’i bod yn “agored i awgrymiadau”.

Ond mae ei dadleniad bod ‘Prosiect Biwrocratiaeth’  ar waith – “profi ein hunain i wneud yn siŵr nad ydym ni’n mynnu gan y proffesiwn bethau nad ydynt wir yn ychwanegu gwerth at addysgu a dysgu” – yn rhywbeth calonogol ac yn brawf bod gwneuthurwyr polisi yn barod i addasu.

Eto i gyd mae llawer mwy o waith i’w wneud ac mae’n hanfodol fod Ms Williams yn ceisio cywiro’r hyn sydd, ym marn ein gweithlu addysg, yn mynd o chwith.

Mae’r diwylliant o gydweithio y mae Ms Williams wedi ceisio’n ddewr i’w feithrin ers ei phenodiad fis Mai diwethaf i’w weld yn eang ar draws holl agweddau datblygu polisi.

Ac mae’n seiliedig ar y cynsail ein bod ni i gyd yn bartneriaid yn y “genhadaeth genedlaethol” i godi safonau.

Bellach mae ganddi ar flaen ei bysedd sylfaen dystiolaeth i adeiladu ei hagenda diwygio.

Nid oes budd mewn cuddio rhag ystadegau ac mae’n rhaid i safbwyntiau’r gweithlu fod yn flaenllaw a chanolog wrth i ni barhau â’n taith i sicrhau gwelliant.

2 Responses

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *