Mae canolfan newydd sy’n anelu at gyfrannu’n ystyrlon i ddatblygu a thrafod polisïau addysg yng Nghymru wedi ei lansio gan Yr Athrofa ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
‘Cyfaill beirniadol’ fydd rôl CEPRA – Canolfan Ddadansoddi ac Adolygu Polisi Addysg, o dan arweiniad yr arbenigwr addysg a’r sylwebydd uchel ei barch, Gareth Evans, er mwyn cefnogi llunwyr polisi a’r rheini sy’n ymwneud â byd addysg Cymru.
Cynigia lwyfan ar gyfer trafod a dadansoddi ym maes polisïau addysg, heria arferion a thybiaethau presennol, gan fyfyrio ar yr amgylchedd lle gweithreda addysgwyr ar bob lefel o ddydd i ddydd.
Mae CEPRA yn edrych ymlaen at chwarae rôl ganolog yng Nghenhadaeth Genedlaethol Cymru i godi safonau i bawb.
Cyfarchodd Gweinidog Addysg Cymru Kirsty Williams y gynulleidfa adeg y lansio yn TramShed, Caerdydd, a oedd yn cynnwys cyflwyniadau gan ysgolion partner yn ogystal â thrafodaeth ar ffurf ddrafft Cwricwlwm Cymru 2022 Llywodraeth Cymru.
Gwnaeth y Gweinidog y sylw: “Mae’n braf gen i fod yn bresennol ar gyfer lansio CEPRA. Rwy’n sylwi mai nod CEPRA yw bod yn gyfaill beirniadol a chefnogi Llywodraeth Cymru a’r gwaith o lunio polisïau. Wrth i ni gyrraedd cerrig milltir pwysig ar ein taith ddiwygio, bydd eisiau digon o drafod a thafoli, yn ddi-os, ac mae gan brifysgolion ran hanfodol yn hyn o beth.
“Fel llywodraeth, ac fel sector addysg, bydd dadansoddi a deall yn fanylach bolisi a gafodd ei greu yng Nghymru, sy’n effeithio ac sy’n dylanwadu ar Gymru, o fudd i bawb. Ar sail mwy o werthfawrogiad a dealltwriaeth o’r pethau hyn gallwn ni ehangu ein cyfeillion beirniadol sy’n gallu ac a ddylai ein cwestiynu a’n herio ni. Mae gennym ni ymrwymiad cyffredin i lunio polisïau, a’r rheini’n anelu at godi safonau a chreu disgwyliadau uchel ar gyfer pawb dan sylw ym myd addysg Cymru ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda CEPRA wrth iddi fynd o nerth i nerth.”
Meddai Cyfarwyddwr CEPRA, Gareth Evans: “Rydyn ni’n lansio CEPRA ar adeg allweddol ar y daith i ddiwygio addysg yng Nghymru. Fe’i sefydlwyd am nifer o resymau, ac yn enwedig yr angen mawr i graffu, dadansoddi a herio polisi addysg yng Nghymru.
“Ond nid yw CEPRA yn ceisio herio am resymau hunanol neu fasnachol. Rydyn ni’n gwneud hynny i herio cam argraffiadau, rhoi prawf ar feddwl uwch a chyfrannu’n adeiladol i ddylunio, datblygu a gweithredu polisi a fydd yn llunio addysg yng Nghymru am genedlaethau.
“Yn fwy nag erioed erbyn hyn, mae’n bwysig rhoi prawf ar yr hyn rydyn ni’n ei wneud er mwyn cael gwared ar faglau posibl a chryfhau ein gweledigaeth ar gyfer addysg yng Nghymru.
“Dyw hi ddim yn bosibl datblygu na gweithredu polisi addysg ar ei ben ei hun, ac er mwyn newid system gyfan mae angen arfarnu’n onest a chael mewnbwn gan amrywiaeth eang o randdeiliaid. Mae angen ymdrech gydweithredol i ddarparu Dyfodol Llwyddiannus.
“Mae CEPRA yn cynnig llwyfan ar gyfer adolygu a dadansoddi polisïau addysg; lle diogel ar gyfer sylwadau a beirniadu materion cyfoes y mae addysgwyr yn eu hwynebu ledled Cymru.”
“Manteisia CEPRA ar arbenigedd academyddion gyda’r Athrofa yn Y Drindod Dewi Sant ac mae hyn yn esgor ar nifer o wahanol ddeilliannau. Mae’r gwaith ymchwil a’r dadansoddi ar y cwrs ar hyn o bryd yn cynnwys yr hyn sydd i’w gael yn y Rhaglen Arweinyddiaeth Fyd-eang, gyda chymorth Cyngor Prydeinig Cymru; ymchwil sy’n cefnogi’r Dull Cenedlaethol tuag at Ddysgu Proffesiynol, datblygu cylchoedd o ymholi proffesiynol mewn ysgolion; yn ogystal ag astudiaeth ryngwladol, pum gwlad o ddysgu a chynhwysiant cydweithredol.”
Aeth Gareth Evans yn ei flaen: “Mae drafft cwricwlwm cenedlaethol newydd Cymru wedi cael ei gyhoeddi ac yn ddiweddar lansiwyd ymgynghoriad ar ei ddogfennau ategol.
“Ni fydd yn syndod i neb, felly, ein bod ni wedi dewis defnyddio digwyddiad lansio heddiw i ganolbwyntio ar y datblygiadau hynny – a rhoi cyfle i rai o’r rheini sy’n arwain y camau gweithredu sôn wrthym am rai o’u canfyddiadau cynnar.”
Dwy o’r ysgolion sydd wedi cofleidio her y cwricwlwm yw Ysgol Gynradd Gatholig Sant Joseff ym Mro Morgannwg, un o 16 ‘ysgol arloesi’ a ddewiswyd gan Lywodraeth Cymru i ystyried y cwricwlwm drafft yn ei gyfanrwydd, ac Ysgol Llanhari yn Rhondda Cynon Taf, ysgol pob oed arloesol sy’n darparu ar gyfer plant rhwng 3 a 19 oed. Yn ystod lansio CEPRA, cafodd Gareth Rein o Ysgol Gynradd Gatholig Sant Joseff, a Rhian Phillips a Meinir Thomas o Ysgol Llanhari gyfle i ddangos sut yr oedd y naill ysgol a’r llall wedi mynd i’r afael â’r cwricwlwm newydd mewn gwahanol ffyrdd a sut mae eu hagwedd yn crisialu i’r dim egwyddor cyfrifolaeth sydd wrth wraidd ein cwricwlwm newydd.
Meddai Gareth eto: “Rhaid sicrhau bod pawb yn cael cyfle i roi mewnbwn ar ein cwricwlwm cenedlaethol newydd – ac mae’n hollbwysig bod pawb sy’n cyfrannu i’r drafodaeth yn cael llais.
“O ran faint o le sydd i amrywio ar gyfer cyd-destunau penodol, rwy’n credu bod dadl gref dros gynnwys yn ein cwricwlwm restr o elfennau anhepgor; y dylai pob plentyn eu cael, ni waeth ble y bo’n astudio yng Nghymru. Gallai’r rhain fod yn themâu bras, neu eitemau a gasglwyd ynghyd yn glystyrau o dan y Meysydd Dysgu a Phrofiad priodol. Wrth reswm, bydd hi’n amhosibl sicrhau cydraddoldeb dysgu ac addysgu byth a bydd gwahaniaethau o hyd oddi mewn i ysgolion ac ar draws ysgolion, ond, yn sicr, mae rhywfaint o le ar gyfer ystyried pa mor wag y bydd y cynfas y caiff athrawon i beintio arno.
“Yn y pen draw, wrth i bob un ohonom bori trwy’r dogfennau cwricwlwm drafft, mae’n sicr y bydd rhai pethau at ein dant, rhai na fydd, a phethau, fwy na thebyg, y byddem ni wedi eu gwneud yn wahanol. Ond rhaid i bawb ym myd addysg barchu’r amser a’r egni a dreuliwyd gan lu o Ysgolion Arloesi i ddod â ni i’r fan hon heddiw. Yn wir, nid hwn yw’r amser i ddiystyru dehongliad neb o ble rydyn ni arni, ond yn hytrach mae’n gyfle i loywi, ac os bydd angen, ailffurfio’r fframwaith llac sydd wedi ei sefydlu.
“Nid gwiw i ni laesu dwylo a cholli’r cyfle i fwydo i mewn i Ddyfodol Llwyddiannus. Fel addysgwyr, mae rheidrwydd mawr arnom ni i helpu i ofalu bod hyn yn cael ei wneud yn iawn.”
I wybod rhagor am CEPRA ewch i: http://cepra.wales/cy/