Hwb Mentergarwch Gwledig
Bydd yr Hwb Mentergarwch Gwledig yn rhan allweddol o’r eco-system y bwriedir ei ddatblygu yn enw Canolfan Tir Glas. Caiff ei sefydlu er mwyn cefnogi gweledigaeth ehangach y rhanbarth i ddatblygu economi cryf a chydnerth a fydd yn galluogi busnesau i ymsefydlu, i dyfu ac i ffynnu yn y pen draw.
Bydd yr hwb mewn sefyllfa i ddarparu cyngor a chefnogaeth ymarferol i fusnesau lleol fel eu bod yn datblygu’n endidau deinamig a mentrus gan fanteisio ar hyfforddiant a fyddai wedi ei deilwrio ar eu cyfer. Tra bydd y pwyslais ar gefnogi busnesau ym maes bwyd a lletygarwch, bydd yr Hwb yn agored i unrhyw fusnesau lleol sy’n awyddus i dyfu a datblygu dros gyfnod o amser. Bydd y ffocws ar greu busnesau o’r newydd, cefnogi busnesau sy’n bodoli eisoes, annog a chefnogi’r rheini sy’n gweithio o fewn y diwydiant amaethyddol i arallgyfeirio a cheisio annog busnesau’r ardal i fabwysiadu dulliau amgen o feddwl a gweithredu. Bydd arloesedd a chreadigrwydd yn themâu cyson ar draws yr holl wasanaethau a gynigir.
Bydd yr Hwb hefyd mewn sefyllfa i gynghori graddedigion ynghylch sefydlu eu busnesau eu hunain gan hefyd adnabod marchnadoedd a chynnyrch o’r newydd a fyddai’n cyfoethogi’r diwydiannau bwyd, twristiaeth, amaethyddiaeth a choedwigaeth yn benodol.
Darperir gofodau deor o fewn yr Hwb ar gyfer y rheini sy’n dymuno sefydlu busnesau o’r newydd yn ogystal â gofodau helaethach ar gyfer busnesau a fydd eisoes wedi eu sefydlu. Bwriedir hefyd sefydlu ystafelloedd seminar a gofodau lle cynhelir gweithdai a chyrsiau hyfforddi’n rheolaidd. Neilltuir hefyd ddwy swyddfa fechan ar gyfer busnesau a fyddai’n dymuno ymsefydlu o fewn yr Hwb.
Deilliannau
- Darparu cyngor busnes i leiafswm o ugain cwmni lleol yn flynyddol.
- Cynorthwyo lleiafswm o bum cwmni newydd i ymsefydlu yn Llambed yn ystod blwyddyn gyntaf ei fodolaeth.
- Cynnal deg digwyddiad hyfforddi yn yr Hwb yn flynyddol a fydd yn cefnogi Strategaeth Economaidd Cyngor Sir Ceredigion a blaenoriaethau strategol Bargen Dwf Canolbarth Cymru.
- Cynorthwyo o leiaf ddau fyfyriwr graddedig i sefydlu eu busnes eu hunain yn flynyddol.
- Cartrefu dau ficro-fusnes newydd a fydd yn cefnogi adfywiad economi gwledig.
- Gweithio gydag asiantaethau penodol a phartneriaid eraill i sefydlu rhwydwaith i gefnogi busnesau ardal Llambed a’r cyffiniau.
- Y Brifysgol i ddarparu cwrs gradd ym maes mentergarwch gwledig yn Llambed o 2022 ymlaen.