Busnesau Lleol
Mae’r dudalen hon yn cael ei diweddaru ar hyn o bryd, felly bydd mwy o fusnesau’n cael eu rhestru’n fuan.
Caffi Conti’s
Mae teulu Conti wedi ffynnu yng Nghymru ers i Artillio gyrraedd yn y 1930au.
Bu’n gweithio i Eidalwyr eraill, a wnaeth y daith o’i flaen, nes iddo arbed digon o arian i agor ei gaffi cyntaf – yn Ystradgynlais gyda’i ddau frawd.
Rhyngddynt llwyddwyd i agor 17 caffi Conti’s ar draws De a Gorllewin Cymru. Conti’s yn Llanbedr Pont Steffan, Gorllewin Cymru yw’r caffi olaf ar ôl bellach.


Gwesty Falcondale
Mae’r Falcondale yn Westy Tŷ Gwledig trawiadol gyda bwyty ac yn lleoliad priodas yn Llambed, Ceredigion, Canolbarth Cymru.
Mulberry Bush Wholefoods
Mae ‘Mulberry Bush Wholefoods’ yn siop bwyd iechyd a chaffi llysieuol teuluol, wedi’i lleoli yn nhref Prifysgol ffyniannus Llambed, Gorllewin Cymru. Agorwyd yn 1974 felly wedi cael ychydig o ymarfer yn cyrchu’r ‘stwff da’, gyda bwydydd cyflawn organig, fitaminau a mwynau o safon, meddyginiaethau llysieuol a homeopathi.
Agorwyd Caffi Llysieuol yn 2007 wrth ailadeiladu’r adeilad yn llwyr. Mae’r Caffi wedi bod yn cynnig ryseitiau anhygoel ers hynny.


Fferm Denmark
Mae Canolfan Cadwraeth Fferm Denmark ryw bedair milltir o Lambed yn warchodfa natur a reolir gan elusen sy’r agored I’r cyhoedd ar gyfer ystod o weithgareddau.
Bydd y llwybrau hynan-dywys yn eich arwain trwy amrywiaeth o gynefinoedd ac yn caniatau ichi brofi amrywiaeth anhygoel o fywyd gwyllt o amgylch y safle 40 erw.
Gallwch gymryd rhan mewn cwrs neu weithdy I ddysgu crefft Newydd neu fwy am ecoleg a chadwraeth. Mae ystod o gynigion llety yn cynnwys yr Eco Lodge hunan-arlwyo, Bunkhouse bach ac Eco Gwersylla. Mae cyfleusterau cynadledda ac ystafelloedd cyfarfod ar gael ar gyfer llu o ddigwyddiadau o encilion I gyfarfodydd busnes I ddathliadau teuluol.
Ymgynghorwyr Yswiriant Eryl Jones Cyf
Mae Ymgynghorwyr Yswiriant Eryl Jones Cyf yn Frocer Yswiriant cyfeillgar a ddwyieithog sydd wedi ei leoli yn nhref hanesyddol Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion. Wedi’i sefydlu yn 1990, mae gan ein tîm brofiad helaeth o gefnogi ystod eang o gwsmeriaid ledled y rhanbarth a thu hwnt, gan gynnig cyfoeth o wybodaeth a chyngor, ynghyd â gwasanaeth ceisiadau llawn. Rydym yn cynnig amrywiaeth o bolisiau yswiriant cystadleuol a phersonol, o geir a thai i ffermydd a busnesau, ac rydym bob amser yn barod i helpu.


Gwilym Price Mab a Merched
Siop deuluol tair genhedlaeth wedi’i lleoli yng nghanol Llambed. Fe’i sefydlwyd dros 50 mlynedd yn ôl gan Gwilym a’i wraig Phyllis. Ymwelwch â ni i ddod o hyd i ddetholiad o ddodrefn cain, nwyddau cartref, anrhegion a llawer mwy.
Hedyn Mwstard
Caffi a siop lyfrau Cristnogol yw’r Hedyn Mwstard, ochr draw i’r brifysgol yn Llanbed, wedi ei sefydlu ers bron i 19 mlynedd. Bu’n gweini bwyd a diod ac yn darparu lle o gymorth, cynhaliaeth a chyngor ysbrydol i’r gymuned ehangach dros lawer o flynyddoedd. Yr ydym yn cael ein cysylltu’n agos gydag Eglwys Efengylaidd Llanbed sy’n cwrdd yn yr adeilad drws nesaf. Mae croeso i bawb i ddod i’r caffi ac i’r eglwys; byddem yn hynod falch i’ch cwrdd.


Siop y Smotyn Du
Ar gyfer eich llyfrau Cymraeg
32 Stryd Fawr
Llanbedr Pont Steffan
Ceredigion SA48 7BB
Ffôn: 01570 422 587
Clinig Podiatric Pont Steffan
Sefydlwyd y clinig gan Rosellen Moore yn 2019, yn darparu gofal traed cyfeillgar, proffesiynol, sy’n canolbwyntio ar y cleientiaid o bob oedran. Cymhwysodd Rosellen fel podiatrydd yn 2005 ac mae ganddi gyfoeth o wybodaeth a phrofiad wedi gweithio i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, yn arbenigo mewn gofal traed clefyd y siwgr.
Mae’r cleientiaid yn cynyddu, ac yn ddiweddar mae’r Clinig wedi ehangu’r Gwasanaethau, wrth gyflogi Ymarferydd Iechyd Traed Joanna Rosiak (yn Gymwys ers 2021). Mae hynny wedi galluogi’r clinig i fod ar agor mwy o ddiwrnodau’r wythnos a darparu gwasanaeth ymweliadau cartref parhaus. Mae Clinig Podiatric Pont Steffan wedi’i leoli’n ganolog yn nhref Prifysgol Llambed, edrychwch am y “DROED FAWR WEN” yn y ffenestr!


LAS Recycling Ltd
Cwmni casglu a gwaredu gwastraff teuluol a sefydlwyd yn Llanbedr Pont Steffan yn 1965. Mae’r cwmni bellach yn eiddo i’r brawd a chwaer Mark a Tina sef y drydedd genhedlaeth o’r teulu i barhau â’r busnes.
Maent yn gweithredu ledled Ceredigion, Sir Gaerfyrddin, Powys, Abertawe a Sir Benfro Ar gyfer eich holl anghenion gwaredu gwastraff cysylltwch â LAS Recycling Ltd.