Academi Bwyd Cyfoes Cymru
Er y caiff Academi Bwyd Cyfoes Cymru ei chartrefu yn adeilad y Willows ar y campws yn y tymor byr, y gobaith yw y caiff cais y Brifysgol a Chyngor Sir Ceredigion i Fargen Dwf Canolbarth Cymru ei gymeradwyo fel y gellir bwrw ati i sefydlu’r Academi mewn adeilad eiconig ar y campws maes o law.
Bydd Academi Bwyd Cyfoes Cymru yn cynnig ffocws clir ar y diwydiant bwyd ac yn fodd o addysgu, hyfforddi a chodi safonau ar draws y diwydiant yn lleol ac yn genedlaethol. Bydd cyfle iddi weithio’n strategol â Llywodraeth Cymru, Y Sioe Frenhinol, Canolfan Fwyd Cymru a chyda lliaws o fusnesau bwyd yng Ngheredigion ac ar draws Canolbarth Cymru. Er y pwyslais ar y lleol, bydd i’r ganolfan gysylltiadau cenedlaethol a rhyngwladol – gyda phartneriaethau â phrifysgolion ym mhedwar ban byd – gydag arbenigwyr ac ymarferwyr byd-eang yn cyfrannu at ei gweithgarwch ac yn ymweld â hi’n rheolaidd. Gallai’r cynllun hefyd gynnwys presenoldeb o bosib ar faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd a fyddai’n cynyddu dylanwad y ganolfan ar draws Canolbarth Cymru.
Bydd Academi Bwyd Cyfoes Cymru yn pwysleisio’r berthynas agos rhwng bwyd, ecoleg a chynaliadwyedd. Bydd hefyd yn hyrwyddo twristiaeth bwyd lle bydd modd cyfuno agweddau ar y diwydiant bwyd a diod lleol â threftadaeth, hanes a diwylliant lleol. Mae’r potensial yn sylweddol.
Caiff Academi Bwyd Cyfoes Cymru ei gweld fel catalydd a fydd yn ysgogi adfywiad economaidd yn y dref gyda’r gobaith o weld busnesau bwyd o’r newydd yn ymsefydlu yno a busnesau cyfredol yn uwchraddio eu hadnoddau ac yn uwchsgilio eu gweithluoedd. Y gobaith yw y gwelir y datblygiad yn esgor ar ddwsinau o swyddi newydd yn y diwydiannau bwyd a lletygarwch gan sefydlu Llambed – a Cheredigion yn ehangach – yn gyrchfan o statws rhyngwladol yn y meysydd hyn.
Addysg fydd wrth wraidd Academi Bwyd Cyfoes Cymru. Bydd yn ganolfan dysgu gydol oes a fydd yn darparu cyrsiau amrywiol ar gyfer meithrinfeydd, ysgolion cynradd ac uwchradd, myfyrwyr addysg bellach ac uwch a grwpiau cymunedol o gefndiroedd amrywiol. Hyderir y bydd modd sefydlu’r Academi yn hwb cenedlaethol gan ymgysylltu’n agos â chlwstwr o ffermydd yn yr ardal a fydd yn darparu profiadau addysgol ymarferol ar gyfer myfyrwyr ac ymwelwyr â’r ganolfan fel ei gilydd. Yn wir, y nod yw sefydlu partneriaeth ffurfiol rhwng ystod o ffermydd sy’n gweithredu dulliau cynaliadwy o weithio, canolfannau lletygarwch penodol ac atyniadau twristaidd cynaliadwy lle caiff myfyrwyr brofiad uniongyrchol o weithredu’r hyn a gyflwynir iddynt fel rhan o’u hastudiaethau.
Bydd ei darpariaeth addysgol yn cychwyn â chyrsiau Ôl-16, o dan arweiniad Coleg Ceredigion/Coleg Sir Gâr, gan arwain at gyrsiau gradd penodol a graddau ymchwil arbenigol o dan arweiniad y Drindod Dewi Sant yn y pen draw. Bydd cynllun prentisiaethau arloesol yn ganolog i’r ddarpariaeth yn ogystal, lle manteisir ar arbenigeddau lleol a chenedlaethol. Bydd holl ddarpariaeth y ganolfan yn drwyadl ddwyieithog gan gefnogi’r sawl sy’n dymuno dilyn ei astudiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd pwyllgor ymgynghorol yn darparu cyngor rheolaidd i’r darparwyr ynglŷn â datblygiadau yn y maes a sut y gellid datblygu’r ganolfan ymhellach.
Bydd i Academi Bwyd Cyfoes Cymru hefyd adran sylweddol wedi ei hanelu at ymwelwyr gan gynnig ystod o weithgareddau a fyddai’n denu dosbarthiadau ysgol a theuluoedd i Lambed o bell ac agos. Nod yr adran hon fyddai addysgu disgyblion a theuluoedd ynghylch maetheg, bwyta’n iach, y gadwyn fwyd a’r cyfoeth o gynnyrch a bwydydd maethlon a dyfir yn naturiol yng Nghymru. Eto, gallai fod statws cenedlaethol i’r agwedd hon o’r gwaith, yn enwedig pan gyplysir y ganolfan â ffermydd organaidd yn lleol a chyda fferm Coleg Sir Gâr yng Ngelli Aur.
Bydd Academi Bwyd Cyfoes Cymru wedi ei chartrefu o fewn adeilad eiconig a fydd wedi ei adeiladu â deunyddiau cynaliadwy lleol. Canolbwynt yr adeilad fydd theatr arddangos eang y bydd iddi gegin o safon broffesiynol. Dyma lle y cynhelir yr arddangosfeydd coginio byw ar gyfer y cyhoedd, myfyrwyr a grwpiau o ymwelwyr. Law yn llaw â’r theatr bydd dwy neu dair cegin lai, cyfres o ddosbarthiadau a stafelloedd seminar, labordai, llyfrgell, ystafelloedd ymchwil, swyddfeydd ar gyfer staff a swyddfeydd ar gyfer tenantiaid allanol a fyddai’n cartrefu eu busnesau yno.
Bydd yr adran ar gyfer ysgolion ac ymwelwyr yn cynnwys ystafell fawr ar gyfer gwahanol weithgareddau yn ymwneud â bwydydd a choginio (nid yn annhebyg i ganolfan Techniquest ym Mae Caerdydd), gofod ar gyfer arddangosfeydd, ystafell ddosbarth a chaffi. Bydd Academi Bwyd Cyfoes Cymru yn gyrchfan ar gyfer y boblogaeth leol a’r rheini a fydd yn ymweld â gorllewin Cymru yn ystod y flwyddyn. Byddai modd defnyddio un o neuaddau preswyl y Brifysgol fel man i’r ymwelwyr aros e.e. gellid trefnu ‘gwyliau bwyd a choginio’ ar y campws trwy gydol y cyfnodau pan na fyddai myfyrwyr yno.
Bydd perthynas agos rhwng Academi Bwyd Cyfoes Cymru a’r Ganolfan Mentergarwch Gwledig a fydd wedi ei lleoli’n gyfagos ar y campws. Bydd hyn yn fodd o drwytho’r myfyrwyr ym maes mentergarwch gan gynnig arweiniad a chyngor parod i’r rheini a fyddai’n ystyried sefydlu busnes o fewn y diwydiant bwyd a lletygarwch. Yn yr un modd, byddai’r pentref bwyd ym Mhontfaen a Chanolfan Bwyd Cymru yn Horeb yn bartneriaid pwysig i Academi Bwyd Cyfoes Cymru, gan gynnig arbenigedd, profiad a chyfle i arbrofi’n lleol.
Yn sgil y ffaith y byddai wedi ei lleoli ar gampws prifysgol, byddai Academi Bwyd Cyfoes Cymru yn gallu cynnal cynadleddau yn rheolaidd trwy’r flwyddyn. Byddai modd iddi hefyd weithio gyda busnesau priodol i drefnu teithiau bwyd o gwmpas Ceredigion gan godi ymwybyddiaeth cynulleidfa eang o gyfoeth ac ansawdd aruchel y cynnyrch lleol. Yn wir, mae cryn botensial i sefydlu o fewn yr Academi bartneriaeth lwyddiannus rhwng y sectorau bwyd, lletygarwch, twristiaeth a diwylliant yng Ngheredigion, gogledd Sir Gâr a Chanolbarth Cymru’n ehangach.
Deilliannau
- cynnig cyrsiau israddedig,
ôl-raddedig a chyrsiau byrion sy’n datblygu dealltwriaeth o faterion allweddol ein hoes mewn perthynas â bwyd ac ymatebion creadigol iddynt – yn benodol, newid hinsawdd, bioamrywiaeth, deiet ac iechyd, ffyniant yr economi leol/cymunedol a diogelwch/sofraniaeth bwyd;
gweithredu fel canolfan addysg bwyd yn y rhanbarth, drwy ddarparu fforwm strategol gyda sefydliadau partner i gynorthwyo gyda’r broses o gyfeirio a chydlynu pob agwedd ar hyfforddiant bwyd yn y rhanbarth;
- cadarnhau partneriaeth strategol rhwng Addysg Uwch ac Addysg Bellach yn y rhanbarth lle mae’r Academi yn cynnig dealltwriaeth ddamcaniaethol ar lefel Addysg uwch i ategu addysg ymarferol ar lefel Addysg Bellach ac Addysg Bellach yn cynnig addysg ymarferol i ychwanegu at ddysgu cymhwysol ar lefel Addysg Uwch;
- defnyddio’r profiad ymarferol sylweddol a’r cyfalaf deallusol a ffisegol sy’n bodoli yn y rhanbarth o ran bwyd cynaliadwy ac atgynhyrchiol ngn nghyd-destun ffermio a thyfu, cynhyrchu eilaidd a lletygarwch;
- sefydlu “banc gwybodaeth” ar gyfer bwyd a ffermio – trysorfa ymchwil ac ysgrifennu am fwyd sy’n gyfoes ac yn datblygu’n barhaus yn ogystal â chasglu gwybodaeth am brosiectau a mentrau bwyd gyda phwyslais penodol ar ddarlun cynhwysfawr a chyfoes o weithgarwch yng Nghymru;
- datblygu cyfleusterau i’w defnyddio gan y gymuned, ysgolion, asiantaethau trydydd sector a phartneriaid o fewn y diwydiant mewn perhtynas â mentrau bwyd cyfoes fel yr amlinellir uchod a gweithredu fel ffocws i gydlynu a chydweithio ar bob agwedd ar y sytem fwyd;
- ymateb i gyfleoedd am ymchwil academaidd parhaus ar draws y gadwyn fwyd o ran maeth/iechyd, effaith hinsawdd, bioamrywiaeth ayb;
- addysgu a chynorthwyo addysg bwyd mewn ysgolion a gweithredu’r cwricwlwm newydd gan roi sylw penodol i rôl Y Drindod Dewi Sant mewn addysg athrawon;
- cyflawni buddion go iawn i dref Llambed a Cheredigion o ran gweithgaredd economaidd a ffyniant cymunedol;
- wrth gyflawni’r uchod, sefydlu’r Acadmi fel arweinydd yn y maes sy’n ganolog i ddatblygiad polisi yng Nghymru a’r DU a’r gallu i addysgu a rhyngweithio â mentrau ar lefel ryngwladol.