Am wybodaeth ar Enwau Lleoedd a Chaeau Llanllwni cysyllter ag: abergiar@yahoo.co.uk

Ein milltir sgwâr ni – pdf

 

Taliad oedd y degwm a gâi ei wneud mewn cyfnod cynnar er mwyn cynnal eglwys y plwyf a’r offeiriad. Roedd hynny’n golygu deg y cant o gynnyrch blynyddol y tir – y cnydau, y grawn, y da byw, y llysiau a phob math o gynnyrch fferm.

Daeth y drefn hon i ben yn gynnar a threefnwyd taliadau ariannol penodol ar gyfer cynnyrch megis da byw a chnydau darfodus. Roedd y drefn yn dal mewn grym yng Nghymru mor ddiweddar ag 1836. Yn y flwyddyn honno pasiwyd deddf i ganiatáu taliadau ariannol yn hytrach na degymu cynnyrch a nwyddau.

Sefydlodd Deddf 1836, Gomisiwn y Degwm i drefnu taliadau’r Degwm – dyma gefndir Llyfr Degwm Llanllwni (1841) a’r Map o’r Plwyf (1842). Mae’r dogfennau gwreiddiol, bellach, yn yr Archifdy Gwladol, Ruskin Avenue, Kew, Surrey.

Ond cafodd dau gopi statudol ychwanegol eu gwneud o’r Map a’r Llyfr. Rhoddwyd un copi o’r Map a’r Llyfr yng ngofal offeiriad y plwyf a’i wardeiniaid a chopi arall yng ngofal yr esgobaeth. Bellach mae copïau esgobaethau Cymru yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru; mae llawer o’r copïau a oedd yng ngofal y plwyfi bellach yng ngofal archifdai sirol.

Mae Llyfr Degwm Llanllwni yn dangos:

  • enw perchennog pob cae
  • enw pob tenant
  • enw pob cae
  • maint pob cae
  • enw pob annedd
  • y taliadau unigol a godir ar bob annedd
  • y taliad cyfansawdd ar gyfer y plwyf

Mae Map y Degwm:

  • yn rhifo pob cae yn unol â’i rif yn Llyfr y Degwm

Mae Llyfr Degwm Llanllwni a’r Map o’r Plwyf a oedd yn sail i bennu’r taliadau newydd, wedi’u diogelu erbyn hyn yn Archifdy Sir Gaerfyrddin.

Nid Llyfr y Degwm yw’r unig gofrestr o enwau tenantiaid a pherchnogion ac o enwau a lleoliad caeau. Ymhell cyn 1841 roedd ar bob tirfeddiannwr angen gwybod:

  • union faint ei stad
  • pa gynnyrch y gellid ei ddisgwyl
  • swm y rhent oedd yn daladwy gan bob tenant.

Cyfrifoldeb stiward y stâd oedd cadw llyfr rhent cyfredol a nodi unrhyw newid o ran tenant, cynnyrch neu enw cae.

Benjamin Jones (1806 – 1863)  oedd y tirfesurydd a luniodd Fap Degwm Llanllwni. Ar y pryd trigai yn Gwarallt ond yn ddiweddarach bu’n byw yn Talardd. Mae wedi’i gladdu ym mynwent yr eglwys yn Llanllwni.

Benjamin Jjones

Er mai 1841 yw’r dyddiad sy’n ymddangos ar Lyfr y Degwm, mae rhai o’r enwau yn adlewyrchu cymdeithas a chyfnod hŷn , weithiau cyfnod hŷn o lawer, na hynny.