Am wybodaeth ar Enwau Lleoedd a Chaeau Llanllwni cysyllter ag: abergiar@yahoo.co.uk

 

Labeli yw enwau lleoedd sy’n ein galluogi i wahaniaethu rhwng gwahanol rannau o’r wlad sy’n eiddo i’n pobl ni. Mae enwau lleoedd yn rhan hollol hanfodol o bob map: yr unig elfennau na ellir eu cynrychioli ar y map ag arwydd neu symbol.

Ac nid yw enwau lleoedd yn bodoli mewn gwagle. Yn ein byd prysur ni mae enwau lleoedd yn effeithio ar fyd busnes, ar eiddo, ar gynllunio, ar yr amgylchedd, ar waith yr heddlu a’r gwasanaethau brys, ar dwristiaeth, ar y cyfrifiad – ac ar wleidyddiaeth yn lleol ac yn genedlaethol. Mae enwau lleoedd yn cofnodi ein bod a’n hunaniaeth fel pobl ac oherwydd hynny dylid eu trin â pharch ac arfer y gofal pennaf wrth ychwanegu atyn nhw.

Dim ond y tu hwnt o haerllug a allai hyd yn oed ystyried dorri clymau’r ymdeimlad o berthyn sydd ynghlwm wrth enw lle. Ond mae’n haerllugrwydd sydd ar gynnydd hyd yn oed yn ein bro ni ein hunain. A rhan o’n cyfrifoldeb ni i gyd yw ceisio sicrhau nad rhyw ffurfiau mympwyol diwreiddiau fydd yn ein cynrychioli ni yn ein milltir sgwar ni ein hunain.

Mae enwau caeau’n gallu cyfleu sut yn union y ffurfiwyd y gymdeithas a’r fro rydym ni’n rhan ohoni. Ynghyd â’r cartref, y cae, mae’n siwr, yw’r uned sydd wedi dylanwadu drymaf ar batrwm bywydau’n cyndeidiau a gadael ei ôl, yn ei dro, ar ein bywydau ni yn yr unfed ganrif ar hugain. Mae enwau caeau’n cyflwyno hanes sydd heb ei gofnodi mewn geiriau, yn cynrychioli cof y filltir sgwar, yn datgelu mentergarwch a dyfeisgarwch a dirgelion ein cynefin dros genedlaethau lawer.

‘Milltir sgwar’, ‘bro’, ‘cynefin’ – dyma’r eirfa a ddefnyddir i ddisgrifio’r lleoedd hynny sy’n rhan ohonom ni, sy’n eiddo i ni ac sydd wedi llywio ein bodolaeth. A rhan o’r cyfrifoldeb cyffredinol at gadwriaeth sydd gan bob un ohonom yw gofalu am barhad yr enwau hyn a throsglwyddo gwybodaeth am y pethau hyn. Roedd Cynllun Milltir Sgwar yn gyfle i gyflwyno rhai o’r labeli sy’n cynrychioli ymwneud hir, ffrwythlon a pharchus plwyf Llanllwni â’r tir dros gyfnod maith.

Mae Ysgol Llanllwni wedi sylweddoli pwysigrwydd gwneud gwaith ffurfiol cyson gyda’r disgyblion ar enwau lleoedd yr ardal ac ar hanes y plwyf. Llwyddwyd i wau’r pynciau hyn yn llwyddiannus i gwricwlwm yr ysgol gan ennill cydnabyddiaeth genedlaethol wrth wneud hynny. Mantais bendant i unrhyw waith cymunedol fel hyn yw bod yr ysgol leol â rhan ganolog yn y gweithgarwch: mae cynifer o’r disgyblion yn dod o gefndir amaethyddol ac yn byw ar ffermydd sy’n sail i’r gwaith a wneir yn yr ysgol. Daeth cydnabyddiaeth genedlaethol o bwysigrwydd hyn, yn ddiweddar, pan gipiodd Ysgol Llanllwni brif wobr Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig. Ac unwaith eto dyma fachu gwobr arall o bwys cenedlaethol – y tro hwn mewn cystadleuaeth a drefnwyd gan Gymdeithas Eisteddfodau Cymru. Cafodd y gwaith ei arddangos ar faes y Brifwyl.

Rhai enwau

Y Wig
Mae wig (ac yn ddiweddarach gwig) yn tarddu o’r Saesneg (fel Chiswick), ac ystyr wick oedd ‘fferm, treflan’. Mae’n debygol mai ‘pentref’ oedd ystyr wig (a gwig) yn y Gymraeg hefyd yn wreiddiol, a’r goedwig yn goed o amgylch y pentref.