Mae ysgol gynradd Llanllwni yn ysgol wirfoddol reoledig dan adain Adran Addysg Cyngor Sir Caerfyrdddin. Mae’r ysgol yng nghanol y pentref ac yn cymryd rhan ganolog yn llawer o weithgareddau’r gymuned leol. Ysgol Eglwys Gymunedol Llanllwni a welir ar yr arwydd wrth y fynedfa i’r ysgol ac mae’r rhan fwyaf o’r plant yn dod o deuluoedd Cymraeg lleol.
Derbynnir plant i’r ysgol y tymor cyn iddynt gael eu pedair oed a mantais enfawr yw bod y rhan fwyaf ohonynt wedi mynychu’r Ysgol Feithrin sydd yn cwrdd yn yr ysgol gynradd dri bore’r wythnos.
Tri dosbarth a thair athrawes sydd yn yr ysgol ynghyd â chymorth gan gynorthwywraig dosbarth.
Cyfrannu addysg o safon uchel tra’n rhoi sylw dyladwy i bob unigolyn yw nod a chenhadaeth yr ysgol. Cymeradwyir y gwaith a wneir yn yr ysgol gan yr arolygiaeth a manteisir ar bob cyfle i gyflwyno i’r plant amrywiaeth o brofiadau diddorol sydd ynghlwm wrth y Cwricwlwm Cenedlaethol; mae hyn yn ysgogi ymhellach frwdfrydedd at ddysgu ac awydd i gyfrannu at y gymuned ac i feithrin cyfrifoldeb a gweithgarwch cymunedol. Cafwyd cydnabyddiaeth genedlaethol yn y maes yma pan gipiodd yr ysgol Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig.
Trefnir ymweliadau addysgol cyson ag eglwysi a chapeli, amgueddfeydd a chestyll, gerddi a diwydiannau lleol, theatrau a threfi cyfagos. At hyn, gwahoddir pobl leol i’r ysgol i rannu eu profiadau â’r plant.
Caiff y plant gyfle i ddatblygu medrau menter trwy drefnu gweithgareddau codi arian i elusennau gwahanol e.e. Plant Mewn Angen, Apêl Arch Noa ac Apêl Blue Peter.
Mae Pwyllgor Eco’r Ysgol a Chyngor yr Ysgol yn gwneud penderfyniadau ar bynciau sydd yn bwysig i’r plant ac yn ymwneud ag amgylchedd a chadwraeth yn yr ysgol ac yn y gymuned.
Mae tri chlwb ffyniannus yn cwrdd ar ôl oriau ysgol sef yr Urdd, y Clwb Hwyl a Chlwb Campau’r Ddraig. Hybir hyder cymdeithasol a sgiliau iaith trwy’r clybiau hyn ac i ddathlu gwyl ein nawddsant cynhelir Eisteddfod Gwyl Ddewi yn yr ysgol ar Fawrth y cyntaf.
Dan gynllun Comenius a ariennir gan y Gymuned Ewropeaidd mae’r ysgol yn elwa wrth fagu cysylltiadau gydag ysgolion eraill yn Ewrop – yn Iwerddon, yn Awstria ac yn Denmarc – sy’n caniatáu cyfnewid staff a disgyblion gyda’r amcan o gadarnhau ymwybyddiaeth y disgyblion o gefndiroedd a thraddodiadau gwahanol. Ac mae’n galondid unwaith eto gweld arferion a ddatblygwyd ac a brofwyd yn Ysgol Llanllwni yn cael eu gwerthfawrgi a’u mabwysiadu ar lwyfan rhyngwladol.