Cyswllt: Y Ficer, Suzy Bale (01559 395413)

 

Cynhelir gwasanaethau yn Gymraeg neu yn Saesneg neu’n ddwyiethog yn yr eglwys bob Sul. Mae’r Ficer yn cyhoeddi cylchlythyr wythnosol sy’n rhoi manylion llawn am y gwasanaethau a gynhelir yn yr eglwys, ac mae copi ohono i’w weld bob amser yn Siop y Pentref. Mae’r Ficer hefyd yn barod iawn i ateb ymholiadau am hanes teuluol ac mae’n achyddwr brwd ei hunan.

Mae’n hapus yn ogystal i wneud trefniadau ar gyfer bedyddio a phriodi trigolion y plwyf. Mae’r eglwys bob amser ar agor yn ystod y dydd.

Eglwys-Llanllwni

Wyddom ni ddim pa bryd yn union yr adeiladwyd eglwys ar y safle hon, ond perthyn carreg yr allor i’r chweched ganrif. Mae’n hen safle Geltaidd mae’n siwr, ac mae sawl tomen hynafol y tu ôl i’r eglwys. Dywed traddodiad lleol mai un o’r angylion a ddewisodd y safle. Codwyd tŵr yr eglwys naill ai yn y ddeuddegfed ganrif neu yn y drydedd ganrif ar ddeg, ac mae rhannau o’r adeilad presennol yn perthyn, yn ogystal, i’r cyfnod hwn. Gwyddys bod yr eglwys dan aden Priordy Sant Ioan, Caerfyrddin yn 1201. Roedd y Priordy i gynnal a darparu offeiriad ar gyfer yr eglwys ond ymddengys mai go ddi-hyd oedden nhw ynglŷn â’u cyfrifoldebau a gwnaed achwyniad i Esgob Tyddewi yn 1381.

croeso-i-eglwys-llanllwni

Mae’r eglwys wedi’i chysegru i Sant Luc, ond cysegriad diweddar a wnaed yn niwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg yw hwnnw. Cysegrwyd yr eglwys yn wreiddiol i Llonio. Cysegrwyd Eglwys Llandinam, Powys iddo yn ogystal.

Tynnwyd oriel yng nghefn yr eglwys yn ystod y 1930au ynghyd â grisiau a oedd y tu ôl i’r pulpud ac a arweiniai ar un adeg at groglen, o bosibl. Yn ôl traddodiad lleol daeth y gweithwyr o hyd i sgerbwd meudwy ar ei eistedd dan y llawr; cadwyd y cyfan yn gyfrinach ganddyn nhw tan iddyn nhw orffen y gwaith!

 

Pethau i’w gweld yn yr Eglwys:

Mae cofebau pres ar wal ogleddol corff yr eglwys yn coffáu teulu Charles Lloyd, Waunifor (1851-1923) a fu’n noddwr hael iawn i’r eglwys hon.

careg_eglwys

Coffeir y teuluoedd a drigai ym Manor Maesycrugiau gan gofeb ar y wal uwchben sedd y teulu a chan ffenestr liw sydd ychydig i’r dde. Cysyllta’r gofeb ar y wal y teulu â Harri Tudur, Iarll Richmond, a ddyrchafwyd yn ddiweddarach yn Harri’r VII. Cyflwynwyd y ffenestr liw o Sant Francis o Assisi er cof am yr 11eg barwnig, Sir Courtenay Cecil Mansel (1880 –1933).

Os trowch i’r chwith wrth adael y fynwent, mae taith gerdded fer bleserus iawn sy’n eich arwain naill ai trwy geunant ac at Bontllwni ac yna ar hyd glan yr afon yn ôl i’r fynwent neu ar hyd y ffordd at Neuadd Gymunedol Llanllwni.